Offeryn asesu ac chynnal arolwg yw Google Forms sy'n rhan o'ch Google Workspace for Education. Gallwch ddefnyddio Google Forms i olrhain asesiad a chasglu adborth sy'n eich galluogi i gynhyrchu ymatebion awtomataidd hefyd.
Mae symlrwydd Google Forms yn amlwg ar unwaith pan edrychwch ar y mathau o gwestiynau sydd ar gael. Mae yna fathau o gwestiynau amlddewis, cwymplen ac atebion byr, a gallwch ofyn i ymatebwyr lwytho ffeil i fyny i'ch arolwg. Felly mae fformat y cwestiwn yn eithaf syml sy'n ei wneud yn adnodd hawdd ei ddefnyddio, ond efallai eich bod chi'n chwilio am fwy o opsiynau, felly mae ganddo fanteision ac anfanteision. Yr agwedd wirioneddol bositif yw'r rheolaethau sydd gennych ar gyfer dilysu ymatebion, yr opsiwn i gwisiau gael eu marcio ar unwaith, y gallu i ychwanegu cynnwys yn adborth yr atebion i ganiatáu darllen pellach neu wybodaeth ar gyfer gweithgareddau estynedig, integreiddio fideo a delweddau yn dda a hefyd gallwch chi wir helpu mynd i'r afael â gwahaniaethu gyda llywio'r cwestiynau yn seiliedig ar atebion myfyrwyr.
Defnyddiwch y 'release later after manual review' i geisio cadw'ch asesiadau'n bersonol. Mae ymatebion awtomataidd yn wych ond weithiau mae angen i chi ychwanegu datganiad personol ar eu cyfer. Er enghraifft, os ydych chi'n gosod asesiad ar gyfer 25 o fyfyrwyr sy'n cynnwys 20 cwestiwn, yna awtomeiddiwch y cwestiynau 2 i 20 a chaniatáu amser i'ch hun farcio'r cwestiwn cyntaf â llaw gan ddefnyddio enw'r myfyriwr ac ati, yna rhyddhewch y marciau. Yn y ffordd honno dim ond 25 gwaith rydych chi'n marcio'r un cwestiwn (cwestiwn 1), ond bydd yn teimlo'n llawer mwy personol i'r derbynnydd.